Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)
|
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) |
Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill |
|
CADRP-53 |
CADRP-53 |
Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.
Amdanoch Chi
Unigolyn
- Nac ydw
Rwy'n teimlo fod angen amddiffyn rhienni rhag ymyrraeth gan y wladwriaeth.
Mae'r cyfyngiadau presenol ar gosb corfforol - e.e. dim ergyd sy'n gadael marc - yn ddigonol i amddiffyn plant.
Pe bai gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu ayyb yn gorfod ymchwilio i bob clustan neu slap ysgafn, byddent yn gorfod esgeiluso troseddau sy'n wir ddifrifol, gan ychwanegu'n ddi-angen at y gwaith maent yn wynebu, heb son am y gost aariannol.
Hefyd, mae mwyafrif y cyhoedd yn erbyn gwaharddiad llwyr.
Nac ydwyf.
Mae cosb ormodol yn erbyn y gyfraith fel ag y mae. Yr angen sydd ar weithredu'r gyfraith bresenol, nid ychwanegu deddfau di-angen.
Rwyf i yn wir bryderu y gallai gweithredu'r ddeddf hon arwain at hollti teuluoedd yn ddi-angen, gan orfodi gweithwyr cymdeithasol i drin rhienni cyfrifol fel troseddwyr.
Nac ydwyf.
O weithredu'r ddeddf hon, rwy'n ofi y gallai arwain at ymyrraeth ddi-angen gan y wladwriaeth i fywyd teuluol.
Byddai unrhyw ddeddf newydd yn cyfeirio adnoddau prin i ffwrdd o'r llefydd ble mae gwir angen, ac wrth gwrs yn gwastraffu amser yr heddlu/gweithwyr cymdeithasol.
Mae arnaf ofn fod y mesur hwn yn enghraifft o "political correctness" yn hytrach na ffordd o wella bywydau pobol Cymru.